| 13415 | The Cyber Hymnal#13416 | 13417 |
| Text: | Calon Lân |
| Author: | Daniel James (Gwyrosydd), 1848-1920 |
| Tune: | CALON LÂN |
| Composer: | John Hughes (Landore), 1872-1914 |
| Media: | MIDI file |
1 Nid wy’n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na’i berlau mân:
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.
Cytgan:
Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na’r lili dlos:
Dim ond calon lân all ganu—
Canu’r dydd a chanu’r nos.
2 Pe dymunwn olud bydol,
Hedyn buan ganddo sydd;
Golud calon lân, rinweddol,
Yn dwyn bythol elw fydd. [Cytgan]
3 Hwyr a bore fy nymuniad
Gwyd i’r nef ar edyn cân
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi i mi galon lân. [Cytgan]
| Text Information | |
|---|---|
| First Line: | Nid wy’n gofyn bywyd moethus |
| Title: | Calon Lân |
| Author: | Daniel James (Gwyrosydd), 1848-1920 |
| Refrain First Line: | Calon lân yn llawn daioni |
| Language: | Welsh |
| Copyright: | Public Domain |
| Tune Information | |
|---|---|
| Name: | CALON LÂN |
| Composer: | John Hughes (Landore), 1872-1914 |
| Key: | A Major |
| Copyright: | Public Domain |
| Media | |
|---|---|
| Adobe Acrobat image: | |
| MIDI file: | |
| Noteworthy Composer score: | |